Amdanom Ni / About Us
Dillad Budur, Meddwl Clir
Dirty Clothes, Clear Mind
Dirty Clothes, Clear Mind
Cwmni dillad i bawb ydi Cnicht. Sefydlwyd y brand yn 2022 gan Andy Collins; Hyfforddwr Antur Awyr Agored gyda'r Llu Awyr Brenhinol, ac anturiwr i'r eithaf. Un o brif nodau Cnicht ydi hyrwyddo'r buddion llesol a ddaw o wneud ymarfer corff a threulio amser yn yr awyr iach. Mae unrhyw fath o weithgareddau yn yr awyr agored yn gallu helpu pob un ohonom i fyw bywyd iachach a llesol.
Mae gan bob un o'n heitemau rif wrth eu hochr, sef uchder rai o gopaon lleol - cyswllt bach ychwanegol i'r tirwedd mynyddig gwych sydd o'n cwmpas yma yn Eryri.
-
Cnicht is a clothing brand for all. Founded in 2022 by Andy Collins; Royal Air Force Physical and Adventure training instructor and all-round adventure seeker. Cnicht's ethos is not just about dirty clothes, but the clear mind it gives the people who wear them. We believe that through outdoor activities, you can live a healthier, more fulfilled, life.
You'll notice also that our products each have their own summit height in meters, an ode to the brilliant mountainous terrain on our doorstep in Eryri.




